Tuesday, September 20, 2005

Y Sgarlets yn erbyn Connacht




Buddigoliaeth hwre! Es i weld y gem yma yn fyw, roedd Y Sgarlets yn chware yn dda ar adegion, ond adegion yn unig. Siomedig iddynt beidio sgorio 4 cais am pwynt bownus, cafwyd sawl cyfle i wneud hynny. Lee Byrne yn cael gem dda, yn chware yn lle Barry Davies, seren y gem yn fy marn i. Da oedd gweld Gareth Bowen yn cicio o bellder dros y pyst. Gobeithio bod eu chware ar gario ymlaen i wella. Bydd gem wythnos nesaf yn anodd yn erbyn Munster, ond wedi dweud hynny ddaru nhw golli i Glasgow ar y penwythnos.

Mae'n ymddangos fod Y Cae Ras yn lwcus i'r Sgarlets. Dwin siwr os buasai stadiwm yn Fangor buasai'r dorf yn fwy, dim ond ychydig dros 3000 yn gwylio'r gem. Mae angen oliaf 4,500 i gynnal eu hunain

0 Comments:

Post a Comment

<< Home