Sunday, January 30, 2005

Cymru yn erbyn Lloegr

Gem fawr wythnos nesaf, dwin meddwl fod Cymru am ennill, dwi am rhoi bet bach i lawr...dwin teimlo yn ffyddiog iawn flwyddyn yma,- er nad yw ein timau rhanbarthol yn perfformio yn rhy dda. Cymru i ennill efo Dwaine Peel yn sgorio y cais cyntaf!

Dreigiau

Myn uffar i, be ar wyneb y ddaear sydd wedi digwydd i'r Dreigiau....hammerings heddwi ma, gweler: http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/rugby_union/irish/4216409.stm

Be oeddwn yn trio deud cyn i fy bosdio y neges olaf yn ddamweiniol oedd....Mae'n ymddangos fod ymdrechion Geision Caerdydd yn mynd o ddrwg i waeth. Perfformiad difrifol neithiwr

Llanelli Sgarlets yn ennill heno ma. Hwre ! Gem dda mae'n rhaid dweud, piti iddi nhw bedio chware i'r safon yma yn gynharach yn y tymor. Wel mae rhaid dechrau yn rhywle. Mae'n ymddangos fod


Saturday, January 08, 2005

Rygbi Heiniken

blogjiwjiw

Trist iawn oedd perfformiadau Y Gweilch a Gleision Caerdydd. Y ddau yn colli yn anffodus. Roeddwn wedi hanner disgwyl i'r Gweilch ennill. Dwin credu dylai Gavin Henson fod yn rhif 10, dyna yw'r safle gorau iddo - mae'n dalentus iawn.

Roeddwn wrth fy modd efo perfformiad Leinster......fel arfer roedd y criw trafod - Sky yn hollol un ochrog....isho Bath ennill....roedd y tim sylwedbu yn brolio perfformiad Bath, gan ddweud eu bod yn haeddu fod ar y blaen, ar y pryd roedd 15 munud ar ol o'r gem. Yn y 15 munud yma ddaru Leinster sgorio 15 pwynt....... roedd o'n 'hilarious' gwrando ar y sylwadau y 'sylebs'. Ha ha. Roedd o'n hynod o ddoniol iddi nhw rhoi seren y gem i un o chwaraewyr Bath - 'sour grapes' ta be!!!! Ha ha

Sunday, January 02, 2005

blogjiwjiw

blogjiwjiw

Hwre, Y Sgarlets yn ennill Nos Sadwrn. Dechrau da i blwyddyn 2005 iddynt....curo Northampton penwythnos nesaf ydi'r gamp nesaf.